-

Mae Cyngor Tref Cydweli yn ceisio deall yn well sut mae trigolion lleol yn teithio o fewn a rhwng Cydweli a Glanyfferi ar hyn o bryd.

Mae gennym ddiddordeb arbennig yn y rhwystrau y gallech eu hwynebu wrth gerdded a beicio yn yr ardal, a beth fyddai’n eich annog i deithio gan ddefnyddio’r dulliau hyn yn amlach.

Bydd eich barn yn cael ei defnyddio i ddeall yn well sut y gallwn wella darpariaeth teithio llesol.

Cyrchwch yr arolwg i drigolion lleol yma: https://forms.office.com/e/h5QN42d8cq

Cyrchwch yr arolwg i ymwelwyr yma: https://forms.office.com/e/dxHNAKn2Fc