-

Cau Ffordd - 12fed -14eg Chwefror

HYSBYSIAD CYHOEDDUS

Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984

Fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Traffig Ffyrdd (Cyfyngiadau Dros Dro) 1991

Gwahardd Traffig Trwodd Dros Dro

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin drwy hyn yn hysbysu na chaiff neb beri i unrhyw gerbyd fynd ar hyd y darn hwnnw o ffordd a elwir Heol Capel Teilo, o’i chyffordd â’r B4308 Cydweli am bellter o 98 metr i gyfeiriad y gogledd ddwyrain.

Mae’r cau yn angenrheidiol er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd tra bod gwaith yn cael ei wneud ar ran Dŵr Cymru i adnewyddu ffurwl sy’n gollwng o ddydd Llun 12 Chwefror 2024 tan ddydd Mercher 14 Chwefror 2024.

Bydd y Llwybr Amgen ar gyfer traffig sy’n teithio tua’r gogledd-ddwyrain o bwynt i’r de-orllewin o’r man cau i fynd i gyfeiriad y gogledd-orllewin ar hyd y B4308 Cydweli, i’w chyffordd â’r A484 Cydweli. Wrth y gyffordd, trowch i’r dde a pharhau mewn cyfeiriad gogledd dwyreiniol ar hyd yr A484 Cydweli, i’w chyffordd gyda ffordd C2057 Meiniciau. Wrth y gyffordd, trowch i’r dde a pharhau mewn cyfeiriad gogledd dwyreiniol ar hyd ffordd C2057 Meiniciau, i’w chyffordd gyda ffordd Capel Teilo. Wrth y gyffordd, trowch i’r dde a pharhau i gyfeiriad y de dwyreiniol ac yna’r de orllewin ar hyd ffordd Capel Teilo, i ddychwelyd i bwynt i’r gogledd-ddwyrain o’r man cau. I’r gwrthwyneb ar gyfer traffig sy’n teithio tua’r de-orllewin.

Bydd symudiad cerddwyr i eiddo unigol yn cael ei gynnal lle bo modd

Bydd yr Hysbysiad hwn yn parhau mewn grym am gyfnod nad yw’n hwy nag un diwrnod ar hugain ac ar ôl hynny gellir estyn ei ddarpariaeth drwy Orchymyn Dros Dro o dan Adran 14(1) o’r un Ddeddf.

DYDDIEDIG 12fed CHWEFROR 2024

Ainsley Williams,
Cyfarwyddwr Lle ac Isadeiledd
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
sir Gaerfyrddin
SA31 1JP