Cymdeithas Rhandiroedd Cydweli
Mae’r Gymdeithas Rhandiroedd yn meddiannu Cae Maliphant, cae sydd y tu ôl i Lady Street. Gall aelodau rentu hanner lleiniau neu leiniau llawn yn flynyddol.
Cymeradwyir ceisiadau aelodaeth gan y pwyllgor. Os hoffech ddod yn aelod, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill, cysylltwch ag ysgrifennydd y Gymdeithas Rhandiroedd.
Cysylltiadau allweddol:
Cadeirydd y Gymdeithas Rhandiroedd: Jeanette Banner
Ysgrifennydd: Margaret Birch, Ffôn: 01554 891404; E-bost: mbirch1955@gmail.com
Hanes
Crëwyd Cymdeithas Rhandiroedd Cydweli yn 2005, pan gysylltodd nifer o drigolion lleol â’r Cyngor Tref gyda chais am ddarparu safle rhandir yng Nghydweli. Arwyddwyd cytundeb prydles rhwng y Gymdeithas a’r Cyngor Tref ar gyfer deiliadaeth Cae Maliphant. I ddechrau roedd darpariaeth ar gyfer ugain rhandir ar y safle, gyda phob llain tua 75m2 mewn arwynebedd. Ers hynny, mae aelodaeth wedi cynyddu’n fawr oherwydd y galw am leiniau llawn a hanner lleiniau.