-

Ynghylch

Mae Tir Comin Cydweli, grŵp amgylcheddol ymarferol o wirfoddolwyr a ffurfiwyd y llynedd (2019), yn gangen o GVEC, y prosiect gardd solar ac mae wedi tyfu allan o grŵp gwirfoddolwyr Glan yr Afon a sefydlwyd yn 2017.
Mae gennym ystod o sgiliau ymarferol, garddio ac addysgu ac rydym wedi ymrwymo i weithio’n lleol i helpu i frwydro yn erbyn yr argyfwng ecolegol a hinsawdd a gwneud ein rhan i greu cymuned gref, hunangynhaliol yma. Felly ‘meddwl yn fyd-eang, gweithredu’n lleol.’
Mae ein gwaith a’n prosiectau’n cynnwys plannu a chynnal a chadw coed, clirio llwybrau troed, codi sbwriel, cefnogi perllan leol, hau darnau o flodau gwyllt mewn mannau cyhoeddus a chefnogi tyfu llysiau yn y gymuned. Rydym yn awyddus iawn i ymgysylltu â phobl ifanc a chynnig gweithdai crefft awyr agored i bawb.
Croeso i wirfoddolwyr
Cysylltwch â: Lindsey ar T: 890 960 neu e-bostiwch lindseywitcombe@gmail.com