Mae cais wedi dod i law am gau dros dro yr C2199, Carwe i Fynyddygarreg o fan sydd 160 metr i'r de-ddwyrain o'r gyffordd â'r C2057 am bellter o 0.7 milltir i gyfeiriad y de-ddwyrain.
Mae angen cau'r ffordd er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd wrth i MJ Quinn wneud gwaith ar ran Openreach a hynny o ddydd Iau, 24 Mehefin 2021 am gyfnod o 5 diwrnod.
Y ffordd arall ar gyfer traffig sy'n teithio tua'r de-ddwyrain fydd mynd ar hyd yr C2199 i gyfeiriad y gogledd-orllewin hyd at y gyffordd â'r C2057 gan fynd heibio i eiddo o'r enw Gorwel Teg. Wrth y gyffordd, troi i'r dde a pharhau ar hyd yr C2057 tua'r gogledd-ddwyrain hyd at y gyffordd â'r C2204 gan fynd heibio i eiddo a elwir yn Mountain Lodge a New House. Wrth y gyffordd, troi i'r dde a pharhau ar hyd yr C2204 tua'r de/de-orllewin hyd at y gyffordd â'r C2199 gan fynd heibio i'r eiddo a elwir yn Glynfach Farm a Cysgod y Glyn. Wrth y gyffordd, troi i'r dde a pharhau ar hyd yr C2199 i gyfeiriad y de-orllewin/gogledd-orllewin er mwyn dychwelyd i fan sydd i'r de-ddwyrain o'r man lle mae'r ffordd ar gau. I'r gwrthwyneb ar gyfer traffig sy'n teithio tua'r gogledd-orllewin.