YNGHYLCH: CAU FFORDD DROS DRO – HEOL FAIR, CYDWELI, 27ain Mehefin 2022
Mae cais wedi dod i law i gau dros dro Heol Fair, Cydweli o'r gyffordd â Stryd y Sarn am bellter o 74 metr i gyfeiriad y dwyrain.
Mae angen cau'r ffordd er mwyn i Wales and West Utilities wneud gwaith gosod cyflenwad nwy newydd o 08:45 tan 15:00 ddydd Llun 27 Mehefin, 2022. Bydd mynediad ar gyfer cludiant i'r ysgol ar gael.
Y ffordd arall ar gyfer traffig sy'n teithio i gyfeiriad y dwyrain fydd mynd i gyfeiriad y de/de-ddwyrain ar hyd Stryd y Sarn, Banc Pendre a Heol Pen-bre hyd at y gyffordd â chylchfan Porth-y-rhyd. Wrth y gylchfan, cymryd yr allanfa gyntaf a pharhau i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain ar hyd Ffordd Osgoi Cydweli hyd at y gyffordd â Heol Rhydymynach. Wrth y gyffordd troi i'r chwith a theithio tua'r gogledd-orllewin ar hyd Heol Rhydymynach a Heol yr Abaty hyd at y gyffordd â Heol Fair gan ddychwelyd i fan sydd i'r dwyrain o'r man lle mae'r ffordd ynghau.