Mae modd darllen a chynnig sylwadau ar ddrafft o Gynllun Twf Economaidd Cynaliadwy ar gyfer Cydweli sydd wedi cael ei gyhoeddi fel rhan o Fenter Deg Tref Cyngor Sir Gaerfyrddin, drwy'r wefan ryngweithiol yma -
Yn dilyn y pandemig, mae'r Cyngor Sir wedi sefydlu adnoddau yn sylfaen i gefnogi adferiad a thwf trefi gwledig gydag ystod o gynigion ar gyfer mentrau a chefnogaeth busnes (gellir gweld rhagor o fanylion yn y cynllun). Mae'r ymgynghoriad yma'n gyfle i fusnesau a'r gymuned ehangach i gynnig sylwadau drwy'r wefan erbyn Gorffennaf 30ain 2021 a bydd copïau caled o'r cynllun ar gael i'w weld mewn nifer o leoliadau yn y dref ar gyfer y rheiny heb fynediad i'r rhyngrwyd.